Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Iau, 5 Rhagfyr 2019

Amser: 12.33 - 14.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5756


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Mark Isherwood AC

Caroline Jones AC

Leanne Wood AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Steve Bryant, Llywodraeth Cymru

Steve Pomeroy, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Llywodraeth Cymru

Clare Severn, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

·         1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

·         1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Huw Irranca-Davies AC; a dirprwyodd Jenny Rathbone AC ar ei ran.

</AI1>

<AI2>

2       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 6 yn y cyfarfod heddiw

·         2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI2>

<AI3>

3       Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft

·         3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.

</AI3>

<AI4>

4       Gwaith dilynol ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·         Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau

·         Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

·         Steve Bryant, Cynghorydd Cynorthwyol Tân ac Achub

·         Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub

4.2        Yn ystod y cyfarfod:

·         Cynigiodd y Gweinidog i'r Dirprwy Weinidog ddiweddaru'r Pwyllgor ar y trafodaethau a gafwyd gyda'r Prif Swyddogion Tân ynghylch y camau i'w cymryd yng Nghymru ar ôl cyhoeddi’r adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell.

·         Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o safbwynt Llywodraeth Cymru ar bob un o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell fel y maent yn ymwneud â Chymru. 

·         Cytunodd y Gweinidog i rannu gyda'r Pwyllgor yr ohebiaeth a anfonwyd gan y Gweinidog Addysg at sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn nodi eu rhwymedigaethau ynghylch diogelwch tân a choladu data cywir.

·         Cynigiodd y Gweinidog i roi brîff technegol i'r Pwyllgor ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch tân.

·         Cytunodd y Gweinidog i rannu dogfennaeth gyda’r Pwyllgor a anfonwyd at asiantau rheoli yn dangos sut y mae'r Llywodraeth yn lledaenu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid.

</AI4>

<AI5>

5       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

5.1   Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y  Pwyllgor ar eiddo gwag

·         5.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y  Pwyllgor ar eiddo gwag.

</AI6>

<AI7>

5.2   Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru – 29 Tachwedd 2019

·         5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru.

</AI7>

<AI8>

6       Gwaith dilynol ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - trafod y dystiolaeth

·         6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>